Ymarferydd Iechyd Meddwl/Cwnselydd – Llanelli
Gwybodaeth am y Rôl
Math o gontract: Cyfnod Penodol am 1 flwyddyn gyda’r posibilrwydd o estyn am ddwy flynedd neu ragor
Oriau: Ystyrir oriau rhan-amser a llawn-amser
Diwrnodau: O ddydd Llun i ddydd Gwener
Croesewir ceisiadau gan siaradwyr dwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
Yn Llanelli, rydym yn sefydlu un clwstwr a fydd yn cynnwys pum ysgol gynradd. Rydym yn chwilio am Ymarferwyr Iechyd Meddwl / Gwnselwyr i weithio yn y clwstwr.
Sut bydd hyn yn edrych?
Rydym yn agored i gefnogi pob clwstwr o bum ysgol naill ai trwy un ymarferydd llawn-amser neu ddau ymarferydd rhan-amser. Gallai dau ymarferydd rhan-amser olygu dwy swydd 2.5 ddiwrnod neu un swydd 3 diwrnod ac un swydd 2 ddiwrnod.
Yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus:
Bydd gennych gymhwyster cwnsela neu therapi cydnabyddedig a phrofiad ôl-gymhwyso, ynghyd â gwybodaeth dda am yr amgylchedd ysgol a phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Bydd eich ffordd o feddwl yn bwysig; rydym yn sefydliad cyffrous, deinamig sy’n cyflawni gwaith rhyfeddol felly rydym yn chwilio am bobl sydd yr un mor frwd ac ymroddedig â ni.
Rôl therapiwtig yw hon o ran ei natur ond rydym hefyd yn chwilio am ymgeiswyr sydd â sgiliau hunanreoli, blaenoriaethu a threfnu cadarn gan y bydd y rôl yn golygu gweithio gyda nifer o ysgolion, lle bydd angen rheoli prosiectau a pherthnasoedd.
Byddwch/bydd gennych:
- gymhwyster clinigol cydnabyddedig (mewn cwnsela, seicotherapi, seicoleg glinigol, Therapi Celf/Dawns/Drama/Cerddoriaeth)
- aelodaeth gydnabyddedig o gorff proffesiynol perthnasol (e.e. BACP/UKCP/NCS/BPS/HCPC/BAPT)
- o leiaf un flwyddyn o brofiad o waith therapiwtig gyda phlant, pobl ifanc ac ysgolion (rhoddir ystyriaeth i leoliad Place2Be)
- profiad o weithdrefnau a pholisïau diogelu/amddiffyn plant ynghyd ag ymrwymiad i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed
- yn defnyddio dull gweithredol o ddatblygu eich hun ac yn arddangos dealltwriaeth o’r gwaith ymchwil diweddaraf a’r arfer gorau sy’n dod i’r golwg yn y gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc
- yn dangos gallu i ddefnyddio eich rheolaeth linell a’ch goruchwyliaeth glinigol eich hun i ystyried eich arfer eich hun a dysgu amdano
- yn gallu rheoli tasgau lluosog, blaenoriaethu a bod yn drefnus iawn
Gwybodaeth am Place2Be
Place2Be yw’r elusen iechyd meddwl plant fwyaf blaenllaw sy’n darparu cymorth a datblygiad proffesiynol mewn ysgolion er mwyn gwella llesiant emosiynol plant, pobl ifanc, teuluoedd, athrawon a staff ysgol.
Mae’r elusen yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl wedi’i wreiddio mewn bron 400 o ysgolion cynradd ac uwchradd yn y Deyrnas Unedig, gan gefnogi cymuned ysgol sy’n cynnwys tua 225,000 o blant a phobl ifanc.
Mae ein timau yn darparu amrediad o wasanaethau yn ein hysgolion partner er mwyn meithrin gwydnwch yn gynnar mewn bywyd trwy amrediad o ymyriadau cyffredinol ac ymyriadau wedi’u targedu:
- gwaith grŵp therapiwtig a seicoaddysgol
- gwaith un i un strwythuredig am gyfnod byr
- sesiynau hunanatgyfeirio galw heibio ar gyfer y myfyrwyr
- platfformau digidol ar y cyd â darparwyr allanol
- hyfforddiant a chyngor rhianta ar-lein ac wyneb yn wyneb
- ymgynghori â staff ysgol
Mae’r rhain i gyd yn cefnogi gallu plentyn i ymgysylltu â bywyd yr ysgol a hefyd yn cefnogi iechyd meddwl cymuned yr ysgol gyfan. Mae ein gwaith, sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, yn rhan o’r ‘system CAMHS cynhwysfawr’.
Trwy ein rhaglen datblygu proffesiynol, rydym yn hyfforddi oddeutu 1200 o Gwnselwyr ar Leoliad bob blwyddyn, sy’n datblygu eu sgiliau a’u profiadau iechyd meddwl a chwnsela trwy ymarfer yn ein hysgolion partner. Rydym hefyd yn darparu nifer o raglenni datblygiad proffesiynol ynghylch iechyd meddwl a llesiant i arweinwyr ysgol, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, er mwyn helpu i adeiladu ysgolion a chymunedau sy’n ‘iach yn feddyliol’ lle gall pob plentyn ffynnu a thyfu.
Rydym yn parhau i arbrofi, treialu ac archwilio ffyrdd newydd o ddatblygu ein hymarfer ynghyd â rhannu addysg, arbenigedd a chanfyddiadau o’r dystiolaeth a’r gwerthusiadau trylwyr a gesglir gennym. Ei Huchelder Brenhinol Duges Caergrawnt yw ein Noddwr Brenhinol, a Place2Be yw un o’r elusennau partner a sefydlodd Heads Together. Rydym hefyd yn cydweithio ag amrediad o elusennau a sefydliadau arbenigol i fanteisio ar yr wybodaeth a’r arbenigedd gorau er mwyn llywio, datblygu a gwella deilliannau ar gyfer y plant, y teuluoedd a’r ysgolion a gefnogir gennym.
Gofynnwn fod ein tîm o staff yn rhannu ein gwerthoedd craidd, sef dyfalbarhad, uniondeb, cydymdeimlad a chreadigrwydd a bod y sgiliau a’r amynedd ganddynt i helpu rhai o’r plant a’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn y Deyrnas Unedig.
Diben Cyffredinol:
Rheoli’n effeithiol bob agwedd ar brosiect ysgol Place2Be mewn partneriaeth â’r ysgol, gan sicrhau bod cymorth therapiwtig ac emosiynol yn cael ei ddarparu i’r plant a’r bobl ifanc.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Place2Be wedi ymrwymo i gyfleoedd cyfartal ac atal arfer gwahaniaethol ac rydym yn bendant am annog ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn denu ceisiadau gan ymgeiswyr o grwpiau amrywiol.
Ar ben hynny, rydym yn awyddus iawn i ddenu ymgeiswyr gwryw i’n rolau clinigol er mwyn adlewyrchu amrywiaeth yr ysgolion partner a’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.
Gofynnir am Ddatgeliad Manwl gan y DBS/PVG ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus am rôl glinigol.
Y Cyfweliad Cyntaf: ddydd Llun 19 Medi, trwy Zoom
Mae croeso i chi gysylltu ag Emma Bell, Rheolwr Rhanbarthol De Cymru, i gael sgwrs anffurfiol neu i gael gwybod mwy am y rolau hyn ([email protected])
Rydym yn cynnig amrediad o fuddion gwych i chi, gan gynnwys:
- Hawl i Wyliau Blynyddol Estynedig
- Rhaglen Dysgu a Datblygu Gadarn
- Cynllun Pensiwn Cyfrannol
- Aswiriant Bywyd, 4 x Cyflog Blynyddol
- Rhaglen Gymorth i Gyflogeion
- Gostyngiadau ar Ffonau Symudol (Rhwydwaith EE)
- Cynlluniau prynu beic a benthyciadau tocyn tymor
- Tâl Mamolaeth/Tadolaeth Estynedig
Os ydych chi’n rhannu ein gwerthoedd craidd sef dyfalbarhad, uniondeb, cydymdeimlad a chreadigrwydd a bod y sgiliau cwnsela a’r amynedd gennych i gynorthwyo rhai o’r bobl ifanc a’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn y Deyrnas Unedig, byddem wrth ein bodd petach chi’n ymuno â ni. Mae’n waith sensitif sy’n gofyn llawer – ond yn rhoi boddhad a budd mawr iawn; a byddwch yn helpu pobl ifanc i sicrhau dyfodol mwy disglair.
I gael manylion pellach ewch i’n gwefan i lawrlwytho/gael golwg ar y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person llawn.