Place2Be yw’r elusen iechyd meddwl plant fwyaf blaenllaw sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad o weithio gyda disgyblion, teuluoedd a staff yn ysgolion y Deyrnas Unedig. Ein gweledigaeth yw bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen i ddatblygu sgiliau ymdopi gydol oes a ffynnu.
Rydym am recriwtio unigolyn arbennig, llawn brwdfrydedd a chydymdeimlad i ymuno â Thîm Cymru fel Rheolwr Ardal Cynorthwyol. Dyma gyfle cyffrous a buddiol i ymuno ag elusen arloesol a deinamig sy’n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl plant; gan ddarparu’r cymorth hanfodol y mae ar blant ei angen i ddatblygu sgiliau ymdopi gydol oes er mwyn ffynnu.
Fel Rheolwr Ardal Cynorthwyol, byddwch yn helpu’r Rheolwr Ardal trwy gefnogi capasiti yn eu hardaloedd. Byddwch yn gyfrifol am dîm bach o staff sy’n darparu ystod eang o wasanaethau mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yn yr ardal, a byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Ardal a goruchwylwyr clinigol i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn bodloni’r safonau uchaf.
Byddwch yn dathlu lleisiau a phrofiadau bywyd plant a phobl ifanc ac yn sicrhau bod y rhain wrth wraidd y gwasanaeth a ddarparwn, gan weithio’n uniongyrchol gyda’r ysgolion i gynnig cymorth iechyd meddwl yn yr ysgol i ddisgyblion, teuluoedd a staff yr ysgol.
Mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd y rôl hon. Gan weithio gyda’r Rheolwr Ardal, byddwch yn sicrhau bod pob agwedd ar y gwaith cyflwyno yn rhan o ddull gweithredu amlasiantaeth er mwyn creu amrywiaeth o lwybrau sy’n ei gwneud yn haws i bobl ifanc a theuluoedd gael cymorth o ran eu llesiant.
Byddwch yn cyfrannu angerdd a sgiliau trefnu i’r tîm ar adeg gyffrous a llawn cyfleoedd i’r sefydliad.
Mae gennym ddiddordeb penodol mewn denu ceisiadau oddi wrth grwpiau amrywiol. Byddai’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg yn fantais.
Byddwch chi’n:
- sicrhau ymarfer clinigol o safon uchel ac yn cyflwyno gwasanaeth llawn ac effeithiol yn holl ysgolion Place2Be
- sefydlu ac yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol a gweithredol â phenaethiaid a chyrff llywodraethu yn yr ysgolion partner
- ymgymryd yn rheolaidd â chyfrifoldebau rheolaeth linell ar gyfer aelodau o’r tîm gan adolygu’r elfennau cyflwyno yn barhaus yn unol â’r allbynnau a’r dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt
- dadansoddi ac yn defnyddio data gwasanaeth o’ch tîm a’ch ysgolion i lywio a gwella perfformiad eich tîm
- mynd ati, gyda chymorth eich Rheolwr Ardal, i gefnogi datblygu pobl, gan feithrin sgiliau a doniau ar draws eich tîm er mwyn galluogi pobl i dyfu a datblygu
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Place2Be wedi ymrwymo i gyfleoedd cyfartal ac atal arfer sy’n gwahaniaethu ac rydym yn bendant am annog ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn denu ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).
Gofynnwn fod ein tîm o staff yn rhannu ein gwerthoedd craidd, sef dyfalbarhad, uniondeb, cydymdeimlad a chreadigrwydd.
Yn ogystal â gweithio gyda phobl wych dros achos arbennig, mae Place2Be hefyd yn cynnig y manteision canlynol:
- Hawl i Wyliau Blynyddol estynedig
- Rhaglen Dysgu a Datblygu Helaeth
- Cynllun Pensiwn Cyfrannol
- Aswiriant Bywyd, 4x Cyflog Blynyddol
- Rhaglen Gymorth i Gyflogeion
- Gostyngiadau ar Ffonau Symudol (Rhwydwaith EE)
- Cynlluniau prynu beic a benthyciadau tocyn tymor
I gael rhagor o fanylion ewch i’n gwefan i weld/lawrlwytho’r Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person llawn www.place2be.org.uk.
I drafod y rôl yn anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â Manjit Dehal trwy anfon e-bost i’r cyfeiriad [email protected]
Y broses recriwtio
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn pob cais: 22/08/22
Dyddiad y cyfweliad: 16/09/22
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Place2Be wedi ymrwymo i gyfleoedd cyfartal ac atal arfer sy’n gwahaniaethu, ac rydym yn bendant am annog ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn denu ceisiadau gan ymgeiswyr o grwpiau amrywiol.
Gofynnir am Ddatgeliad Manwl gan y DBS/PVG ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus am rôl glinigol.