Gwybodaeth am y Rôl
Swydd Barhaol
Oriau: 21 awr yr wythnos
Diwrnodau: Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau
Lleoliad: Ysgol Gynradd Moorland, Sblot, Caerdydd, CF24 2ET
URL yr ysgol: https://www.moorlandprm.cardiff.sch.uk/
Croesewir ceisiadau gan siaradwyr dwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
Rydym yn chwilio am oruchwyliwr, therapydd a rheolwr prosiect cyffredinol profiadol ar gyfer yr ysgol gynradd hyfryd hon yng Nghaerdydd.
Mae ein staff mewn ysgolion yn darparu amrediad o wasanaethau yn ein hysgolion partner er mwyn meithrin gwydnwch yn gynnar mewn bywyd trwy amrediad o ymyriadau cyffredinol ac ymyriadau wedi’u targedu:
- gwaith grŵp therapiwtig a seicoaddysgol
- cwnsela un i un (a gyflwynir yn bennaf gan gwnselwyr ar leoliad)
- gwaith un i un strwythuredig am gyfnod byr
- hyfforddiant a chyngor rhianta ar-lein ac wyneb yn wyneb (a gyflwynir gan Ymarferwyr Teulu)
- ymgynghori â staff yr ysgol
Mae’r rhain i gyd yn cefnogi gallu’r plentyn i ymgysylltu â bywyd yr ysgol a hefyd yn cefnogi iechyd meddwl cymuned yr ysgol gyfan. Mae ein gwaith, sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, yn rhan o’r ‘system CAMHS cynhwysfawr’.
Bydd Rheolwr Prosiect yr Ysgol yn goruchwylio gwasanaeth ysgol gyfan sy’n darparu amrediad o ymyriadau sy’n cwmpasu cwnsela un i un, gwaith grŵp, cefnogi athrawon a rhieni a’r ysgol gyfan. Cyflawnir y gwaith cwnsela un i un yn bennaf gan dîm o gwnselwyr gwirfoddol ar leoliad, felly bydd profiad goruchwylio yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae hwn yn gyfle gwych i weithio mewn ysgolion sydd wedi ymrwymo i gyflwyno gofal bugeiliol effeithiol iawn a ategir gan ymyriadau cynnar ac sy’n gwerthfawrogi manteision cael gwasanaeth therapiwtig yn yr ysgol. Buom yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd Moorland ers 2009 ac mae’r gwasanaeth wedi’i wreiddio’n dda iawn yma.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Place2Be wedi ymrwymo i gyfleoedd cyfartal ac atal arfer sy’n gwahaniaethu ac rydym yn bendant am annog ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn denu ceisiadau gan ymgeiswyr o grwpiau amrywiol.
Ar ben hynny, rydym yn awyddus iawn i ddenu ymgeiswyr gwryw i’n rolau clinigol er mwyn adlewyrchu amrywiaeth yr ysgolion partner a’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.
Gofynnir am Ddatgeliad Manwl gan y DBS/PVG ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus am rôl glinigol.
Rydym yn sefydliad sydd wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.
Gwybodaeth amdanoch chi
Yr ymgeisydd llwyddiannus:
Bydd gennych gymhwyster cwnsela neu therapi cydnabyddedig a phrofiad ôl-gymhwyso, ynghyd â gwybodaeth dda am yr amgylchedd ysgol. Yn ogystal, mae profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol i eraill yn hanfodol gan y byddwch yn goruchwylio, yn cefnogi ac yn datblygu ein tîm o gwnselwyr ar leoliad.
Rydym yn sefydliad cyffrous, deinamig sy’n cyflawni gwaith rhyfeddol felly rydym yn chwilio am bobl sydd yr un mor frwd ac ymroddedig â ni.
Byddwch/bydd gennych:
- gymhwyster clinigol cydnabyddedig (mewn cwnsela, seicotherapi, seicoleg glinigol, Therapi Celf/Dawns/Drama/Cerddoriaeth)
- aelodaeth gydnabyddedig o gorff proffesiynol perthnasol (e.e. BACP/UKCP/NCS/BPS/HCPC/BAPT)
- profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
- ·o leiaf un flwyddyn o brofiad mewn rôl glinigol yn cyflawni gwaith therapiwtig gyda phlant, pobl ifanc ac ysgolion (rhoddir ystyriaeth i leoliad Place2Be)
- profiad o weithdrefnau a pholisïau diogelu/amddiffyn plant ynghyd ag ymrwymiad i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed
- yn deall sut i reoli prosiect iechyd meddwl effeithiol mewn ysgol
- yn gallu meithrin perthnasoedd trwy gyfathrebu’n effeithiol â phob rhanddeiliad mewnol ac allanol
- yn gallu datblygu cynlluniau prosiect yn gamau gweithredu synhwyrol, amserol sy’n bodloni disgwyliadau’r ysgol a chydweithwyr uwch, gan ddeall yr angen am effeithlonrwydd ac amserlenni cyflwyno
I drafod y rôl hon yn anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu ag Emma Bell, Rheolwr Rhanbarthol – [email protected]
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Mawrth 9 Awst, ar-lein trwy Zoom
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig amrediad o fuddion gwych i chi, gan gynnwys:
- Hawl i Wyliau Blynyddol Estynedig
- Rhaglen Dysgu a Datblygu Gadarn
- Cynllun Pensiwn Cyfrannol
- Aswiriant Bywyd, 4 x Cyflog Blynyddol
- Rhaglen Gymorth i Gyflogeion
- Gostyngiadau ar Ffonau Symudol (Rhwydwaith EE)
- Cynlluniau prynu beic a benthyciadau tocyn tymor
- Tâl Mamolaeth/Tadolaeth Estynedig
Os ydych chi’n rhannu ein gwerthoedd craidd sef dyfalbarhad, uniondeb, cydymdeimlad a chreadigrwydd a bod y sgiliau cwnsela a’r amynedd gennych i gynorthwyo rhai o’r bobl ifanc a’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn y Deyrnas Unedig, byddem wrth ein bodd petaech chi’n ymuno â ni. Mae’n waith sensitif sy’n gofyn llawer – ond yn rhoi boddhad a budd mawr iawn; a byddwch yn helpu pobl ifanc i sicrhau dyfodol mwy disglair.
I gael manylion pellach ewch i’n gwefan i lawrlwytho/gael golwg ar y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person llawn.
Gwybodaeth amdanom ni
Place2Be yw’r elusen iechyd meddwl plant fwyaf blaenllaw sy’n darparu cymorth a datblygiad proffesiynol mewn ysgolion er mwyn gwella llesiant emosiynol plant, pobl ifanc, teuluoedd, athrawon a staff ysgol. Y llynedd, gweithiodd Place2Be yn uniongyrchol gyda 700 o ysgolion trwy ein hyfforddiant neu ein gwasanaethau iechyd meddwl yn yr ysgol, gan gyrraedd cymuned ysgol o fwy na 380,000 o ddisgyblion.
Mae ein timau yn darparu amrediad o wasanaethau yn ein hysgolion partner i feithrin gwydnwch yn gynnar mewn bywyd trwy waith cwnsela, gwaith a chwarae creadigol, a chynorthwyo gallu’r plentyn i ymgysylltu â bywyd yr ysgol. Mae ein gwaith, sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, yn rhan o’r ‘system CAMHS cynhwysfawr’.
Trwy ein rhaglen datblygu proffesiynol, rydym yn hyfforddi oddeutu 1200 o Gwnselwyr ar Leoliad bob blwyddyn sy’n datblygu eu sgiliau a’u profiadau iechyd meddwl a chwnsela trwy ymarfer yn ein hysgolion partner. Rydym hefyd yn darparu nifer o raglenni datblygiad proffesiynol ynghylch iechyd meddwl a llesiant i arweinwyr ysgol, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, er mwyn helpu i adeiladu ysgolion a chymunedau sy’n ‘iach yn feddyliol’ lle gall pob plentyn ffynnu a thyfu.
Rydym yn parhau i arbrofi, treialu ac archwilio ffyrdd newydd o ddatblygu ein hymarfer ynghyd â rhannu addysg, arbenigedd a chanfyddiadau o’r dystiolaeth a’r gwerthusiadau trylwyr a gesglir gennym. Ei Huchelder Brenhinol Duges Caergrawnt yw ein Noddwr Brenhinol, a Place2Be yw un o’r elusennau partner a sefydlodd Heads Together. Rydym hefyd yn cydweithio ag amrediad o elusennau a sefydliadau arbenigol i fanteisio ar yr wybodaeth a’r arbenigedd gorau er mwyn llywio, datblygu a gwella deilliannau ar gyfer y plant, y teuluoedd a’r ysgolion a gefnogir gennym. Gofynnwn fod ein tîm o staff yn rhannu ein gwerthoedd craidd, sef dyfalbarhad, uniondeb, cydymdeimlad a chreadigrwydd a bod y sgiliau a’r amynedd ganddynt i helpu rhai o’r plant a’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn y Deyrnas Unedig.